Mae'r ysgol yn croesawu dulliau cyfathrebu drwy dechnoleg a/neu'n defnyddio'r system bost er mwyn galluogi pobl o ledled Prydain a thramor yn ogystal a phobl leol i dderbyn hyfforddiant. Mae'r dull o ddysgu o bell yn gofyn disgyblaeth a sgiliau rheoli amser da gan y disgybl er mwyn iddynt allu mwynhau yr hyblygrwdd mae'r dull hwn o astudio yn ei gynnig.
Mae'r ysgol yma gyda'i gwreiddiau'n ddwfn mewn doethineb hynafol a sgiliau o draddodiadau iachau ond hefyd yn defnyddio'r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf ar yr un pryd. Wedi dweud hynny, yr hyn sy'n fwa dros holl weithgareddau'r ysgol yw'r ymdrech angerddol i ddysgu mewn awyrgylch sy'n meithrin ac yn ysbrydoli ac yn hyrwyddo ymarfer moesol, tarddiad deunyddiau a ffordd o fyw.
Y lleoliad
Lleolir y gweithdai penwythnos ymarferol yng Nghymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech, Coleg Addysg i Oedolion yn Harlech, Gogledd Cymru.
