Aroma-gyffwrdd a Gofal-gyffwrdd Cymru
Mae Ysgol Aromatherapi Cymru yn falch o gyhoeddi ei hachrediad mewn dysgu cyrsiau AROMA-GYFFWRDD a GOFAL-GYFFWRDD. Dyma gyrsiau delfrydol ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, canolfannau dydd, athrawon, nyrsys cynorthwyo addysgu ag unrhyw broffesiwn gofalu arall. Mae’r cymwysterau mewn aromatherapi ac/neu sgiliau tylino’r cyhyrau yn galluogi unrhyw un yn y proffesiwn gofalu i ddefnyddio sgiliau aromatherapi yn ddiogel yn eu hamgylchedd gweithio.
Mae’r cyrsiau AROMA-GYFFWRDD a GOFAL-GYFFWRDD yn gyrsiau newydd sbon ac yn hynod o fodern mewn arddull, wedi eu llunio i wella amgylchedd i weithwyr ac i gleientiaid, tra’n gwella ansawdd gofal i unigolion.
Am lawer o flynyddoedd mae gofalwr yn poeni fwyfwy am fod yn ofalus wrth gyffwrdd eu cleientiaid. Mae siawns fod cleientiaid a chleifion wedi eu hamddifadu o gyswllt corfforol cadarnhaol, ac o ganlyniad i hynny’n cael effaith negyddol ar eu lles emosiynol a chorfforol. Mae plant, oedolion a’r henoed yn ymateb yn gadarnhaol i ofal a chyswllt sy’n briodol, diogel, sensitif a thwym galon.
Mae AROMA-GYFFWRDD a GOFAL-GYFFWRDD yn caniatau i’r gofalwr a’r unigolyn sy’n derbyn y gofal brofi newid cadarnhaol o fewn perthnasau therapiwtig. Drwy gwblhau y cwrs yn llwyddiannus, caiff gofalwyr eu hyfforddi i weithio’n ddiogel o fewn cylch cyfyngedig eu gwaith yn eu hamgylchedd weithiol. Mae’r technegau syml ond gwerthfawr wedi eu llunio i weithio’n effeithiol, hyd yn oed yn ystod amserlen waith brysur.
Mae materion diogelwch a phryderon cyfreithiol wedi atal llawer o gyflogwyr, am nifer o resymau, rhag caniatau eu haelodau o staff i ymarfer aromatherapi yn y gweithle. Mae’r datblygiad cyffrous o AROMA-GYFFWRDD ac GOFAL-GYFFWRDD wedi goresgyn y broblem o ddiogelwch yn uniongyrchol drwy gyfyngu ar y cylch gwaith i weithredu sgiliau tylino’r cyhyrau ac aromatherapi sy’n ddiogel ac allweddol.
Mae’r hyfforddiant yma wedi ei lunio mewn cydweithrediad â’r Ffederasiwn Aromatherapi Cenedlaethol (IFA), sef y corff llywodraethu hynaf yn y byd ar gyfer Aromatherapi Proffesiynol. Gall gofalwyr sydd wedi eu hyfforddi mewn AROMA-GYFFWRDD a GOFAL-GYFFWRDD gael gafael ar gefnogaeth, ac yswiriant i weithio fel aelod cysylltiol o’r IFA.
AROMA-GYFFWRDD: Sgiliau Aromatherapi i Ofalwyr (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 - ar y gweill)
Galluogi’r gofalwr i weithredu’r canlynol yn broffesiynol - defnyddio olew naws, gofal-gyffwrdd, a sgiliau tylino’r cyhyrau.
- Cwrs Aroma-gyffwrdd 5 diwrnod_
- 35 awr o dasgau ac thraethodau heb oruchwyliaeth
- Cyflwyniad 1-diwrnod o asesiadau
NEU
- Cwrs 3 diwrnod (ei gwblhau fel modiwl ar wahân ar ôl cwblhau Gofal-gyffwrdd yn flaenorol)
- 15 awr o dasgau a thraethodau heb oruchwyliaeth
- Cyflwyniad 1 diwrnod o asesiadau
GOFAL-GYFFWRDD: Sgiliau Tylino’r Cyhyrau i Ofalwyr (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 - ar y gweill)
Galluogi’r gofalwr i weithredu’r canlynol yn broffesiynol - gofal-gyffwrdd, sgiliau a straeon tylino’r cyhyrau.
- Cwrs 2 ddiwrnod
- 20 awr o dasgau a thraethodau heb oruchwyliaeth
- Cyflwyniad 1 diwrnod ac asesiad
Drwy gais gellir darparu AROMA-GYFFWRDD a GOFAL-GYFFWRDD ar gyfer 5 i 8 o fyfyrwyr ar ddyddiad sy’n gweddu pawb yng Ngholeg Harlech, neu mewn ystafell addas yn y gweithle. Gellir cynnal y cwrs 2-ddiwrnod ar y cyd neu yn ystod wythnosau ar wahân.
Mae’r ffi yn £90 y person y dydd, sy’n cynnwys Llyfryn y cwrs, yr holl hyfforddiant a ffioedd asesu.
Caiff y dyddiadau diweddaraf ar gyfer y cyrsiau eu cyhoeddi yn yr adran newyddion o’r wefan hon. Os oes gennych ddiddordeb yna cysylltwch â ni.
