Cyweiriad Reiki
Mae Ysgol Aromatherapi Cymru yn cynnig hyfforddiant Reiki.
Gweler yr adran newyddion ar gyfer dyddiadau.
Cyweiriad Reiki I
Reiki I yw’r lefel mynediad. Caiff y myfyriwr ei gyweirio i egni Reiki ar gyfer iachuso eu hunain, eraill, planhigion ac anifeiliaid. Ar y lefel yma byddwn yn trafod canolfanau egni’r corff sy’n adnabyddus fel y Chakras. Mae hyfforddiant Ysgol Aromatherapi Cymru mewn Reiki yn cynnwys y cyfuniad hyfryd o Reiki ac Aromatherapi, neu ‘Aroma-Reiki’, gan ddysgu pa olew naws sy’n effeithiol wrth weithio gyda phob un o’r saith Chakras. Mae’r cyweiriad undydd yma yn agored i bawb.
Cyweiriad Reiki II
Reiki II yw lefel yr ymarferydd, sy’n galluogi myfyrwyr i hyfforddi fel Therapyddion Reiki. Mae’r myfyrwyr yn gweithio gyda symbolau, a dangosir technegau myfyrio iddynt fel eu bod yn gallu eu defnyddio ac i gyfeirio’r egni Reiki mewn modd mwy eglur. Caiff iachuso o bell a thechnegau eraill eu dysgu hefyd. Cyn y Cyweiriad Reiki II bydd angen i chi gyflwyno copi o’ch tystysgrif Reiki I. Mae’r cyweiriad undydd yn agored i unrhyw un sydd wedi cwblhau Reiki I.
Ar bob lefel o Reiki byddwch yn dysgu sut a pham fod Reiki yn gweithio, y cefndir hanesyddol, yn ogystal â phrofi’r Cyweiriad. Ar ôl y Cyweiriadau rydym yn atgyfnerthu’r gwaith papur gyda sesiynau ymarferol hyfryd lle byddwch yn rhoi ac yn derbyn Reiki. Byddwch yn derbyn tystysgrif ac ein Llyfryn Reiki i fynd adre gyda chi sy’n cynnwys holl wybodaeth y gweithdy yn ogystal â dogfennu eich llinach Reiki personol.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) Gall therapyddion cymwys gyfri Cyweiriadau Reiki fel 7 pwynt ar gyfer bob diwrnod maent yn ei fynychu.
Mae Reiki yn dechneg Siapanaeg ar gyfer lleihau straen a hybu iachâd. Datblygwyd y driniaeth gan Dr Mikao Usui yn y 1900’au, lle defnyddir y dechneg syml o osod dwylo ar eu gilydd, techneg gall unrhyw un ei ddysgu. Deilliodd Reiki o Addysgu Tantrig gyda tharddiad o fynaich Bwdhaidd Tendai yn Siapan. Tydi Reiki ddim yn grefydd, athrawiaeth na chrêd.
Meistr Reiki - Lindsay Woodman fydd eich tiwtor. Cafodd ei hyfforddi yn y Traddodiad Usui ac mae Lindsay wedi bod yn gweithio gyda egni Reiki am 14 mlynedd.
Mae Lindsay yn gweithio mewn clinigau, ysbytai ac mewn cartrefi, ac mae’n ymgorffori Reiki yn ei gwaith aromatherapi. Mae wedi gweithio gyda’r henoed, pobl mewn gofal lliniarol a iechyd meddwl, merched beichiog a gofal geni plentyn yn ogystal â gofalwyr, oedolion a phlant. Mae Lindsay wrth ei bodd yn rhoi Reiki i blanhigion ac anifeiliaid, ac yn aml wedi trwytho ei meddyginiaethau aromatherapi gyda Reiki.
